#

 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-5-716

Teitl y ddeiseb: Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Testun y Ddeiseb: Yma yn y DU mae gennym hawl i addysg am ddim, felly oni ddylem gael cludiant diogel, am ddim yn ôl ac ymlaen i'r ysgol? Yr ateb i hyn yw dylem. Ers llawer o flynyddoedd mae trenau Arriva Cymru wedi bod yn darparu cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci sydd yn fantais enfawr i'r rhai sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae hyn wedi newid. Maen nhw wedi galw am gael yr holl ddisgyblion i brynu tocyn trên i fynd i'r ysgol ac oddi yno ac mae'r prisiau hyn yn amrywio rhwng £19.95 a £32.90 ar gyfer pob tymor ysgol. Gall hyn fod yn gostus iawn i rai rhieni sydd â mwy nag 1 plentyn, ac nid yw'r ysgol yn gallu helpu rhieni gyda'r gost hon oherwydd bod y tocynnau yn cael eu darparu drwy gwmni Trenau Arriva Cymru. Mae Trenau Arriva wedi dweud mai diogelwch yw'r rheswm am hyn, ond mae'r plant sydd â'r tocynnau trên dynodedig o flaen rhwystr metal "amddiffynnol" yn agosach at ymyl y platfform, a'r plant nad oes ganddynt docynnau yn y man caeedig bach o fewn y rhwystr hwn, gan achosi mwy o berygl mewn gwirionedd oherwydd bod lle mor fach yn orlawn. Trwy gael cludiant am ddim ar y trenau unwaith eto bydd pob disgybl yn gallu cael cyfle teg i gael addysg a bydd yn gallu mynd ymlaen i wneud yr hyn y mae'n dymuno'i gyflawni mewn bywyd. Byddwn i gyd yn cael ein trin yn gyfartal ac ni fydd arian yn bryder mawr i neb.

 

Cefndir

Cyflwynodd Trenau Arriva Cymru (ATW) deithio am ddim i fyfyrwyr o Ysgol Gyfun Treorci tua deng mlynedd yn ôl i annog ymddygiad da gan fyfyrwyr sy'n teithio i'r ysgol ar reilffordd Treherbert ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd.

Tynnodd ATW y trefniant hwn yn ôl ym mis Mehefin 2016 yn dilyn pryderon diogelwch a achoswyd gan lefel y galw yn arwain at orlenwi mewn gorsafoedd. Roedd hyn yn dilyn asesiad risg a gynhaliwyd gan ATW yn dilyn pryderon a godwyd gan griw'r trenau a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. 

Yn y bore fel arfer mae disgyblion yn teithio ar ddau drên, gan gyrraedd Treorci am 08:04 a 08:34.  Fodd bynnag, mae'r trên ysgol yn y prynhawn fel arfer yn cludo tua 300 o ddisgyblion.  Nid yw cael gwared ar deithio am ddim wedi lleihau nifer y disgyblion sy'n teithio.   Mae Trenau Arriva Cymru wedi cyflwyno cynllun rheoli torf, ac erbyn hyn mae'n cyflogi pedwar aelod o staff diogelwch yng ngorsaf Treorci yn y prynhawn. 

Ar ôl tynnu'r teithio am ddim yn ôl, mae myfyrwyr yn gallu gwneud cais am docyn tymor addysg ATW.  Mae ATW yn cyhoeddi tua 300 o'r tocynnau tymor hyn yn flynyddol i fyfyrwyr sy'n teithio ar y trên i nifer o ysgolion ar draws Ardal Masnachfraint Cymru a'r Gororau.  Mae'r rhain yn cynnig gostyngiad o 55 y cant ar y pris, gyda disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn teithio am ddim.  Gall tocyn dilys gael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg rhwng y gorsafoedd a ddangosir ar y tocyn.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Rheoli a chaffael masnachfreiniau

Nid yw masnachfreiniau rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gwaith o reoli Masnachfraint Cymru a'r Gororau o ddydd i ddydd.

Mae masnachfraint bresennol Trenau Arriva Cymru yn dod i ben ym mis Hydref 2018.  Mae Llywodraethau Cymru a'r DU ar hyn o bryd yn trafod datganoli pwerau gweithredol i Lywodraeth Cymru i gaffael y fasnachfraint rheilffordd nesaf i Gymru o 2018.  Disgwylir i bwerau gael eu datganoli o 2017.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus Gosod y Trywydd ar gyfer Rheilffordd Cymru a’r Gororau, ym mis Ionawr 2016.  Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Mae'r crynodeb yn dweud bod ymatebwyr yn cefnogi'r trefniadau tocynnau teithio rhatach ar y rheilffordd presennol, er y gwnaed nifer o awgrymiadau yn cynnwys "ystyried cynigion rhatach ar gyfer myfyrwyr prifysgol/pobl ifanc yng Nghymru".

Polisi teithio rhatach Llywodraeth Cymru

MaeCynllun Tocynnau Teithio Rhatach Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn bennaf yn darparu teithiau bws am ddim i bobl dros 60 oed, pobl sydd ag anableddau penodol a rhai personél y gwasanaethau arfog/cyn-filwyr rhyfel a anafwyd.  Fodd bynnag, mae'r cynllun hefyd yn ymestyn i deithio ar y trên mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bws yn gyfyngedig, yn bennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru.  Ar hyn o bryd mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu tan fis Mawrth 2017.

Yn 2015 cyflwynodd Llywodraeth Cymru y cynllun Fy Ngherdyn Teithio  mewn partneriaeth â'r diwydiant bysiau i ddarparu disgownt o draean ar deithio ar fws i bobl ifanc 16 i 18 oed ledled Cymru.

Teithio gan ddysgwyr

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael eu nodi yn
y  
 Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008.   O dan ddarpariaethau'r Mesur, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal sydd o dan 19 oed.  Rhaid iddynt roi cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw ymhellach na phellteroedd penodol o'u hysgol addas agosaf.  Ar gyfer disgyblion uwchradd mae hyn yn dair milltir. Fodd bynnag, mae Rhondda Cynon Taf wedi defnyddio ei bwerau disgresiynol i osod y pellter hwn yn ddwy filltir.  Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu nad yr ysgol honno yw'r ysgol addas agosaf, nid oes gan y disgybl fel arfer yr hawl i gludiant ysgol am ddim hyd yn oed os ydynt yn byw y tu hwnt i bellter cerdded.

Mae polisi cludiant ysgol Rhondda Cynon Taf  yn nodi y bydd y defnydd effeithlon o adnoddau yn pennu'r dull cludiant a ddarperir. Gellir darparu cludiant trwy gyfrwng gwasanaethau cludiant ysgol dan gontract neu wasanaethau cludiant cyhoeddus presennol a fydd, ynghyd â maint a math y cludiant (bws, bws mini, trên, tacsi, ac ati), yn cael ei bennu yn ôl cost effeithiolrwydd.

Mae'r awdurdod lleol wedi dweud bod trefniadau Trenau Arriva Cymru yn annibynnol ar yr awdurdod lleol a byddai disgyblion sy'n bodloni'r meini prawf yn gymwys i gael cludiant am ddim o dan gynllun Rhondda Cynon Taf.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'n ymddangos bod y mater o deithio am ddim i ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci  wedi cael ei drafod yn y Cynulliad hyd yma.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.